DEWCH I GAEL EICH YSBRYDOLI – CYCHWYNNWCH EICH BUSNES EICH HUNAN!

Croeso i Fy Stori Fusnes – cyfres o ddigwyddiadau a gynhelir gyda'r nod o'ch ysbrydoli os ydych wedi ystyried cychwyn eich busnes eich hunan.

Rhaglen Cymorth Hyblyg i Fusnes (FS4B) Llywodraeth Cynulliad Cymru sy'n rhedeg y digwyddiadau yn Aberystwyth, Wrecsam, Caerdydd, Caerfyrddin, Abertawe a Bangor ac maent wedi'u llunio'n arbennig ar gyfer pobl o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ym myd busnes, yn cynnwys menywod a phobl ifanc, pobl o leiafrifoedd ethnig, pobl sy'n siarad Cymraeg a phobl anabl.

Bydd y digwyddiadau'n sôn am brofiadau pobl go iawn o fyd chwaraeon a busnes a'r nod fydd eich ysbrydoli a'ch ysgogi os ydych wedi ystyried cychwyn busnes ond nad oeddech yn siwr sut i gymryd y camau cyntaf.

Bydd pobl amlwg o fyd chwaraeon yn sôn am y tebygrwydd rhwng chwaraeon a busnes – ysbrydoliaeth, ysgogiad, canolbwyntio a chred ynoch eich hunan – i'ch procio i feddwl beth y gallech ei gyflawni pe baech yn gweithio i chi'ch hunan.

Bydd modelau rôl o raglen Dynamo Llywodraeth Cynulliad Cymru – pobl go iawn o nifer o gefndiroedd sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ym myd busnes – yn cynnal gweithdai bychain i adrodd eu stori. Byddant yn dweud sut yr aethant ati i gychwyn y busnes, sut y cawsant eu hysbrydoli i wneud hynny a beth sy'n eu gyrru i barhau â'r busnes; sut y maent wedi goresgyn rhwystrau a sut y maent yn elwa.

Byddant yn ddigwyddiadau calonogol gyda'r nod o ddangos i bawb y gallant lwyddo wrth weithio iddynt eu hunain. Byddant yn rhoi hwb i'ch hyder ac yn sicrhau y cewch gyngor ymarferol, da oddi wrth fudiadau cefnogi profiadol am sut i ddechrau.

Cliciwch ar y tabiau i gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau. Os hoffech ddod i un ohonynt, ewch i'r dudalen gofrestru neu cysylltwch â threfnwyr y digwyddiadau, Quadrant, ar 029 2069 4900 neu fystorifusnes@quadrant.uk.com.

Quadrant sy'n rhedeg y wefan hon